Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (111) |
Croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o Senedd Trinidad a Tobago, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2, 6 a 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.22
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad o Gynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Interim
Dechreuodd yr eitem am 14.39
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Gwneud gwahaniaeth: Rôl amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o ran mynd i'r afael â thlodi plant
Dechreuodd yr eitem am 15.01
5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Twf a Seilwaith - Caniatâd Cynllunio Tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5124 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Twf a Seilwaith - Diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5125 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Twf a Seilwaith sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
7. Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5158 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2012.
8. Dadl: Ymgyrch Bwyta'n Gall Newid am Oes
Dechreuodd yr eitem am 15.54
NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.
2. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer diogelu’r cyflenwad bwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r dull gorfiwrocrataidd o weithredu yng nghyswllt Blas am Oes sy’n ychwanegu at gost darparu bwyd iach mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.
3. Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.
4. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch.
6. Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.
7. Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Daeth y cyfarfod i ben am 16:51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 6 Chwefror 2013